Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i seiclwr 71 oed farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 24).

Fe ddigwyddodd yn Colchester Avenue y brifddinas, ger archfarchnad Sainsbury’s am oddeutu 1.30yp.

Cafodd y dyn ei daro gan VW Transporter, ac fe fu farw yn y fan a’r lle. Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae’r heddlu’n apelio am ddeunydd dashcam, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.