Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1 miliwn o arian cyhoeddus mewn cronfa, er mwyn helpu busnesau bach â chanolig i “ymdopi â Brexit”.

Bydd modd i’r busnesau geisio am rhwng £10,000 a £100,000 o’r gronfa, ar gyfer ariannu prosiectau wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi am Brexit.

Wrth gyhoeddi bodolaeth y gronfa, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

“Busnesau Bach a Chanolig yw asgwrn cefn ein heconomi ac mae fy Nghynllun Gweithredu ar yr Economi yn nodi’n gwbl glir fy mod yn ymrwymedig i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddyn nhw geisio tyfu a ffynnu mewn byd ar ôl Brexit.

“Dim ond ychydig o fisoedd sydd yna erbyn hyn cyn i’r DU ymadael â’r UE. Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael â Brexit yn golygu bod gan fusnesau yng Nghymru nifer o gwestiynau sydd heb eu hateb am yr hyn a fydd yn eu hwynebu yn y dyfodol, a gallai newidiadau i’r sefyllfa economaidd effeithio’n benodol ar Fusnesau Bach a Chanolig.

“Mae Banc Datblygu Cymru, ein Porth Brexit a’r gefnogaeth ehangach a roddwyd gan Busnes Cymru wedi cael croeso mawr yn barod, ond dwi’n deall hefyd fod yna fusnesau y bydd angen ychydig yn fwy o gymorth arnyn nhw dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.

“Dwi’n gobeithio y bydd y gronfa hon o £1 filiwn yn cyrraedd y busnesau hynny ac y bydd, ar yr un pryd, yn cymell pob Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru i gofrestru gyda Busnes Cymru ac i elwa ar Borth Brexit ac ar y gefnogaeth arbenigol sy’n cael ei chynnig.

“Mae’n gyfnod o ansicrwydd mawr, ond dwi am sicrhau busnesau o bob maint ym mhob cwr o Gymru y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael inni wrth inni geisio diogelu swyddi a sicrhau bod ein heconomi’n parhau i dyfu ac i ffynnu.”