Mae’r Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, dan y lach am wrthod rhoi £1 miliwn o’r pwrs cyhoeddus at y gost o greu archif o raglenni radio a theledu.

Bwriad y Llyfrgell Genedlaethol yw creu’r archif ar gost o £9 miliwn i gyd, ac maen nhw yn cyfarfod i drafod y cynllun heddiw.

Ond mae Llywydd y Llyfrgell, y cyn-AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas,  wedi dweud wrth y BBC ei fod yn “siomedig iawn” gyda phenderfyniad Dafydd Elis-Thomas i beidio cefnogi’r cynlluniau yn ariannol.

Byddai’r archif yn gartref i 160,000 o raglenni BBC Cymru, ac mae AC Plaid Cymru Dr Dai Lloyd wedi dweud bod gweithredoedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn “holl annerbyniol” a’i fod yn “peryglu’r holl brosiect”.

Ac mae BBC Cymru wedi dweud eu bod yn “siomedig” na fydd y cynllun presennol yn cael ei wireddu, oherwydd y byddai yn caniatáu i bawb fynd i archwilio’r archif enfawr o raglenni.

Dafydd Êl yn “siomedig”

Mae’r Gweinidog Diwylliant wedi ysgrifennu llythyr at y Llyfrgell Genedlaethol, yn egluro pam nad yw yn fodlon ymrwymo i roi £1 miliwn iddyn nhw at gostau creu’r archif.

Mae angen cymryd camau, meddai, “i sicrhau nad yw’r Archif Ddarlledu Genedlaethol yn peryglu sefydlogrwydd ariannol y Llyfrgell Genedlaethol yn y dyfodol”.

Hefyd fe ddywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei fod yn “siomedig” bod trafodaethau ynghylch gallu’r prosiect i gynnal ei hun yn yr hirdymor wedi digwydd “mor hwyr yn y broses”.

Gobaith y Llyfrgell Genedlaethol yw cael £5 miliwn o arian Loteri at gost y prosiect.