“Niwsans” oedd ymosodiad seibr diweddar ar gyhoeddwr llyfrau yng ngorllewin Cymru, yn ôl Pennaeth Cyhoeddi’r busnes.

Mae Meirion Davies yn dweud bod staff Gwasg Gomer wedi methu â chael at eu ebyst am “gyfnod byr”, ond er gwaethaf hynny mae “pawb wedi dod i ben â hi” erbyn hyn.

Mae ganddyn nhw “gwmni Technoleg Gwybodaeth da” wrth gefn, meddai, ac mae’n mynnu na fydd llyfrau Nadolig y cwmni yn cael eu heffeithio.

“Rydyn ni wedi cael problem â’r peth,” meddai wrth golwg360. “Wnaeth e effeithio ni am dros wythnos. Ond dyw e heb effeithio ein cynhyrchu ni o gwbwl.

“Mae’r argraffdy yn brysur ofnadwy. Ac mae ein llyfrau Nadolig i gyd yn mynd i fod allan. Mae un gyfrol yn yr argraffdy gyda ni yn awr, a bydd hi yn y siopau fel mae hi i fod.

“Dyw e ddim wedi effeithio ni. Roedd e’n niwsans, ond dyw e ddim wedi effeithio ni yn hynny o beth.”

Mae golwg360 yn deall bod cyfrifiaduron, ffeiliau, gwybodaeth a chynnwys eu llyfrau i gyd mewn cwarantîn; a bod staff wedi gorfod cael cyfrifiaduron newydd sbon.

Bygythiad cynyddol

Nid Gwasg Gomer yw’r cwmni Cymreig cyntaf i wynebu’r fath drafferth.

Cafodd gwefan gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth Gymraeg, Apton, ei hacio ym mis Ionawr y llynedd, a mynnodd y hacwyr bod pridwerth £200 mewn arian digidol yn cael ei dalu.

Mae Meirion Davies yn rhybuddio bod y bygythiad yn cynyddu, ac mae’n galw ar gwmnïoedd Cymreig i gymryd gofal.

“Wrth i ni fynd yn fwy soffistigedig yn dechnolegol, mae’n dod yn bwysicach i ni fod yn ofalus,” meddai.

“R’yn ni’n eithaf hapus gyda’r sefyllfa r’yn ni’n rhan ohoni. Ond, dw i’n credu ei fod yn rhywbeth sy’n digwydd yn gynyddol. Ac mae’n niwsans i gwmnïoedd.”