Mae cyfanswm o 19 o bobol bellach wedi eu harestio ym Mro Morgannwg am droseddau’n ymwneud â gwerthu cyffuriau.

Fe gafodd 11 eu cymryd i’r ddalfa ddoe ac wyth heddiw mewn cyrchoedd gan 54 o swyddogion heddlu.

Heddiw, fe aethon nhw i 12 o gartrefi yn Y Barri a’r Rhŵs, gan arestio pobol mewn chwech o’r rheiny – chwe dyn a dwy ddynes.

Roedd yr heddlu’n cynnwys swyddogion lleol a rhanbarthol, swyddogion gyda chwyn a chynrychiolwyr o’r Asiantaeth Drosedd Genedlaethol.

“Mae hwn yn gych ar raddfa fawr i fynd i’r afael â gwerthu cyffuriau yn yr ardal a gobeithio’i fod yn dangos ein hagwedd galed i daclo’r problemau,” meddai’r Ditectif Arolygydd Dean Taylor o Heddlu De Cymru.