Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi rhybuddio bod Cymru yn wynebu cyfnod anodd wrth i’w lywodraeth baratoi eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Wrth annerch cynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl heddiw, mynnodd y byddai ei blaid yn cyflawni eu haddewidion yn ystod y cyfnod anodd hwn – ond fe rybuddiodd na fyddai’r blynyddoedd i ddod yn rhai hawdd.

Dywedodd Mr Jones eu bod yn disgwyl problemau am fod Llywodraeth Cymru wedi cael gostyngiad yn eu cyllid gan Lywodraeth San Steffan.

Dywedodd: “Yng Nghymru, rydan ni’n dal  i allu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Yn wahanol i’r Torïaid, ni wnawn ni fethu â chyflawni ein dyletswydd i helpu pobl mewn cyfnodau anodd. Nawn ni ddim rhoi’r gorau i’r egwyddor yna.”

Bu Carwyn Jones hefyd yn amddiffyn polisïau Llafur yn ymwneud â’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gan ei gymharu â agwedd Llywodraeth San Steffan yn Lloegr.

Dywedodd bod rhestrau aros “allan o reolaeth” yn Lloegr a bod cleifion yn gorfod talu am bresgripsiynau, ond nad ydyn nhw yng Nghymru. Ychwanegodd bod y “blerwch” mae’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei wneud o’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn peri “tristwch mawr”.

“Mae meddygon yn dweud wrtha’i y byddai’n llawer gwell ganddyn nhw weithio yng Nghymru. Oherwydd, yng Nghymru, nawn ni ddim preifateiddio’r gwasanaeth iechyd. Mae’r gwasanaeth iechyd yn ddiogel yn nwylo Llafur,” meddai.

Mae Carwyn Jones wedi rhoi addewid y bydd yn creu rhagor o swyddi a sicrhau bod economi Cymru yn tyfu, gan sicrhau bod pobl ifainc yn cael y sgiliau sydd eu hangen, a darparu cartrefi o safon.

Daw sylwadau Mr Jones cyn i’w weinyddiaeth gyflwyno rhaglen y llywodraeth i’r Cynulliad yr wythnos hon. Yn ogystal â chynlluniau ar gyfer deddfwriaeth, dywedodd Mr Jones y byddai hefyd yn cynnwys “targedau fel bod pobl yn gallu ein beirniadu ni ar yr hyn rydan ni wedi ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf.”