Mae’r heddlu wedi lansio archwiliad ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yng nghoedwig St. Mellons.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i goedwig yn ardal Llaneirwg, y tu allan i Gaerdydd, toc wedi chwarter wedi saith y bore yma ar ôl i gorff gael ei weld yno.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, roedd wedi ei weld ger Brookfield Drive yn y pentre’ ac mae’r ardal gyfan wedi ei chau I’r cyhoedd ar hyn o bryd.

Mae Golwg360 yn deall nad yw’r achos yn cael ei gysylltu gydag archwiliad llofruddiaeth yn ymwneud a Mohamed Megherbi – dyn aeth ar goll yng Nghaerdydd ddydd Mawrth (Tachwedd 22).