Canrif ers pasio deddf o roddodd yr hawl i ferched sefyll etholiad i fod yn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf erioed, mae Aelod Cynulliad yn mynnu bod “llawer o ffordd i fynd” eto o ran sicrhau tegwch i ferched yn y byd gwleidyddol.
Ystyrir y Qualification of Women’s Act yn 1918 fel y cam cyntaf pwysig o ran hawliau merched mewn gwleidyddiaeth hyd heddiw.
Mis wedi pasio’r ddeddf y flwyddyn honno, fe safodd 17 o ferched mewn etholiad a chanrif yn ddiweddarach maen nhw wedi gwneud eu marc yn y Senedd.
Un o’r rheiny yw Ann Clwyd, Aelod Seneddol dros Gwm Cynon ers 1984.
Mae’r gwleidydd Llafur yn dweud bod sefyllfa merched yn y Senedd wedi gwella yn ystod ei chyfnod hi yno.
“Does dim gymaint o wrthwynebiad i gymharu â phan oeddwn i yma ar y dechrau,” meddai Ann Clwyd, sydd wedi bod ynghanol y gwaith o sicrhau chwarae teg i ferched yn Senedd Cymru.
Cafodd ymdrech fwriadol ei gwneud wrth agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, i sicrhau bod cynrychiolaeth hanner a hanner o fenywod a dynion yno.
“Finnau a Julie Morgan oedd wedi cwffio i gael hynny, er yr holl wrthwynebiad,” esbonia Ann Clwyd.
Heddiw mae 27 o Aelodau’r Cynulliad yn ferched a 33 yn ddynion, sydd yn fwy blaengar o gymharu â San Steffan – sydd â 208 o’r aelodau yn ferched a 442 yn ddynion.
“Llawer o ffordd i fynd”
Mae Aelod Cynulliad Arfon yn credu bod yna “lawer o ffordd i fynd” o ran sicrhau tegwch i ferched yn y byd gwleidyddol.
“Mae angen cael mecanwaith penodol mewn lle i sicrhau bod menywod yn parhau i gael mynediad i wleidyddiaeth yn y dyfodol ac i gael cynrychiolaeth gyfartal yng ngwleidyddiaeth Cymru,” meddai , Siân Gwenllïan.
Os nad yw merched yn cael dweud eu dweud, “tydi’r materion sydd yn effeithio merched ddim yn cael eu trafod,” meddai.
Bu Siân Gwenllïan yn siarad yn y digwyddiad ‘Cynrychiolaeth Gyfartal yng ngwleidyddiaeth Cymru’ ym Mhrifysgol Caerdydd neithiwr.
Dyma beth oedd ei neges wrth siarad â golwg360 cyn y drafodaeth: