Mae dau fardd o Aberystwyth yn gobeithio trefnu cyfres newydd o nosweithiau barddoniaeth a cherddoriaeth, er mwyn ceisio “dod â holl gyffro’r sîn farddol” i’r dref.

Y Prifardd Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury, sef Pennaeth Dros Dro Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw trefnwyr ‘Cicio’r Bar’.

Bydd y gyntaf yn y gyfres o nosweithiau yn cael ei chynnal nos yfory (Tachwedd 22), gan ddathlu llwyddiant dau o brif enillwyr yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, sef Gruffudd Owen – enillydd y Gadair – a Manon Steffan Ros – enillydd Y Fedal Ryddiaith.

Bydd y noson ei hun yn cynnwys cyfarchion barddol gan y ddau drefnydd, ynghyd â darlleniad o’r awdl fuddugol gan Gruffudd Owen a pherfformiad gan Blodau Gwylltion, y ddeuawd mae Manon Steffan Ros yn rhan ohoni.

‘Cyffro’

“Ar hyd a lled y wlad, mae nosweithiau gwych yn cael eu cynnal ar hyn o bryd sy’n rhoi llwyfan i farddoniaeth ac i gerddoriaeth Gymraeg,” meddai Eurig Salisbury.

“A dyna’r syniad y tu ôl i Cicio’r Bar – dod â holl gyffro’r sîn farddol i’r dre mewn cyfres o nosweithiau rheolaidd ar hyd y flwyddyn.

“Pa ffordd well o roi hynny i gyd ar waith na thrwy longyfarch a dathlu camp dau o brif enillwyr yr Eisteddfod Genedlaethol eleni?”

Mae’r noson yn cael ei chynnal yn Stiwdio Gron Canolfan y Celfyddydau, a bydd yn dechrau am chwarter i wyth yr hwyr.