Mae dyn, 23, wedi marw yn dilyn damwain draffig yn ardal Llanelli yn ystod oriau mân y bore heddiw.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn hanner awr wedi un y bore yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A476 ger Llannon a oedd yn cynnwys Vauxhall Astra glas.

Bu farw gyrrwr y cerbyd, Ryan Thomas o Lanelli, yn y fan a’r lle.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi rhoi gwybod i’w deulu am y digwyddiad, ac maen nhw ar hyd o bryd yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.