Mae dyn 26 oed o Lanedeyrn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â diflaniad dyn o Gaerdydd fis diwethaf.

Yn ôl Heddlu De Cymru, maen nhw’n cynnal ymchwiliad i achos o lofruddiaeth wedi i Mohamed Megherbi, ddiflannu o ardal y Rhath ar Hydref 9.

Er gwaethaf ymholiadau, dydyn nhw ddim wedi gallu dod o hyd i’r gŵr sy’n hanu o Algeria, ac sydd â chysylltiadau â gogledd-orllewin Llundain.

Cafodd y dyn o Lanedyrn ei arestio ddoe (Tachwedd 20) ar amheuaeth o lofruddio, ac mae’n parhau yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.

Ychwanega’r heddlu eu bod nhw hefyd wedi bod yn archwilio tŷ yn Llanedeyrn a’r ardal gyfagos mewn cysylltiad â’r ymchwiliad.

Ymchwiliad yn parhau

“Mae gennym bryderon difrifol am les Mohamed Megherbi, sy’n wreiddiol o Algeria ac yn ddiweddar wedi bod yn byw yn Heol Casnewydd, y Rhath,” meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Gareth Morgan.

“Does gennym ddim gwybodaeth ynglŷn â’i deulu felly dydyn ni ddim yn gallu dod o hyd i berthynas agos.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd yn ei nabod, neu wedi’i weld – neu hyd yn oed Mr Megherbi ei hun – i gysylltu â ni neu’r orsaf heddlu agosaf.”