Alun Davies
Mae dirprwy weinidog Llywodraeth Cymru wedi canmol y gwaith sydd wedi dod o fuddsoddiad Ewropeaidd yn un o ardaloedd tlotaf Cymru heddiw.

Wrth ymweld â phrosiect sydd wedi helpu cannoedd o bobol dan anfantais a phobl anabl i ddod o hyd i waith yn ardal Methyr Tudful, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Raglenni Ewropeaidd, Alun Davies, fod y buddsoddiad yn helpu pobol ac economi Cymru.

Bwriad y Sefydliad i’r Dall, Merthyr Tudful, yw bod help ar gael i gannoedd o bobol anabl a difreintiedig i wella eu gobeithion o gael swydd.

“Dwi’n falch iawn i weld bod arian yr Undeb Ewropeaidd yn darparu cyfleon i bawb i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn cael gafael mewn gwaith a fydd, yn ei dro, yn creu gweithlu cryfach i Gymru,” meddai Alun Davies.

Cafodd prosiect cyntaf y Sefydliad ei roi ar waith gan fuddsoddiad Ewropeaidd Amcan 1. Ers y buddsoddiad hwnnw maen nhw wedi helpu 700 o bobol ag anableddau neu broblemau iechyd i ganfod gwaith, ac wedi gosod adnoddau a chyfleusterau newydd ym Mharc Busnes Triangle ym Mhentre Bach.

Yn ystod ei ymweliad, bu’r Dirprwy Weinidog yn cwrdd â gweithwyr ac yn clywed sut y mae arian Ewrop wedi gwella’r cyfleuon i bobol difreintiedig yn y byd gwaith.

Dywedodd Prif Weithredwr y Sefydliad, Richard Welfoot, “Mae Prosiect y Sefydliad wedi bod yn llwyddiannus nid yn unig drwy gefnogi pobol anabl a difreintiedig i gael swyddi, ond hefyd wedi ein galluogi i gael adnoddau a chyfleusterau gwych.

“Ein bwriad nawr yw adeiladu ar y llwyddiannau hyn a pharhau i ddarparu gwasanaeth o safon yn cefnogi gweithwyr ag anableddau neu dan anfantais ym Merthyr Tudful a’r ardal leol.”

Bellach, mae gan y Sefydliad uned gweithgynhyrchu eu hunain, sy’n cyflogi 55 o bobol yn uniongyrchol er mwyn gwneud gwaith pren ar gyfer swyddfeydd a diwydiant, tra bod pobol eraill yn ennill “sgiliau a hyder” er mwyn eu paratoi ar gyfer y byd gwaith.

Un o’r rhai sydd wedi manteisio ar y cyfleon ar gael drwy’r Sefydliad yw Valerie Gallagher. Yn ystod ei chyfnod gyda’r Sefydliad, mae hi wedi llwyddo i ennill nifer o gymhwysterau addysg newydd, gan gynnwys cymryd dosbarthiadau Sgiliau Sylfaenol i helpu ei darllen, ysgrifennu a’i mathemateg.

“Dwi’n falch iawn bod rhywun wedi rhoi’r cyfle i fi weithio,” meddai Valerie Gallagher, “mae e wedi rhoi’r cyfle i fi brofi fy mod i’n gallu gweithio’n llawn amser a gwneud cyfraniad gwerthfawr er gwaethaf fy anabledd.

“Mae’r Sefydliad wedi buddsoddi ynof i fel person, ac wedi rhoi’r holl gefnogaeth sydd ei angen arna i er mwyn cael gafael ar hyfforddiant, ac i ymateb i newidiadau yn y gwaith.”