Mae arweinwyr undeb yr NFU ledled gwledydd Prydain wedi mynegi eu cefnogaeth i’r cytundeb Brexit drafft – er nad yw’n “berffaith”, medden nhw.

Mae’r undeb amaethyddol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi bod yn dadlau ers tro eu bod nhw am weld Brexit lle bydd masnach “ddi-rwystr” yn parhau rhwng gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn datganiad ar y cyd, dywed y pedwar llywydd y bydd masnachu â’r Undeb Ewropeaidd o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd yn unig yn “ddinistriol” i’r diwydiant amaeth yng ngwledydd Prydain.

“Rhaid cymryd y cyfle”

“Bydd y cytundeb Brexit drafft, er nad yn berffaith, yn sicrhau na fydd rhwystrau caled ar y dydd y byddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bydd yn sicrhau bod masnachu nwyddau amaethyddol a bwydydd a diod ynn parhau trwy gydol y cyfnod pontio, fel cynt. Rhaid cymryd y cyfle hwn,” meddai’r datganiad.

“Mae ffermwyr gwledydd Prydain yn cynhyrchu bwyd i’r lefelau uchaf o gynhyrchiant a lles anifeiliaid yn y byd.

“Mae’r diwydiant bwyd ac amaethyddol yn parhau i annog y llywodraeth i amddiffyn y safonau hyn a sicrhau lefelau uchel o fasnach mewn nwyddau amaethyddol rhwng gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd, ein marchnad allforio fwyaf.”