e Hillary Clinton wedi talu teyrnged i Is-Lywydd Prifysgol Abertawe, yr Athro Mike Sullivan, wedi ei farwolaeth yr wythnos hon.
Roedd yn flaenllaw ym mywyd y brifysgol am dri degawd, gan arwain Partneriaeth Strategol Tecsas, prosiect rhwng Abertawe ac wyth o brifysgolion a sefydliadau meddygol.
Fe fu’n arwain y gwaith o sefydlu Academi Morgan er cof am gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan -gwleidydd y bu’n ymgynghorydd gwleidyddol iddo.
Mike Sullivan oedd yn gyfrifol am greu cyswllt rhwng y brifysgol â’r gwleidydd o’r Unol Daleithiau, Hillary Clinton. Fe erbyniodd hi doethuriaeth er anrhydedd gan y brifysgol y llynedd, gan ailenwi Coleg y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.
Hillary Clinton yn “drist iawn”
“Roeddwn yn drist iawn i glywed am farwoaleth yr Athro Mike Sullivan,” meddai Hillary Clinton.
“Roedd rhadlonrwydd, caredigrwydd a deallusrwydd Mike yn goleuo popeth a wnâi.
“Cwrddais â Mike am y tro cyntaf yn 2016. Oddi ar hynny, fe ges i’r fraint o ddod i’w adnabod ef, ei deulu, a theulu Prifysgol Abertawe.
“Chwaraeodd ran hanfodol wrth feithrin partneriaethau cryf y brifysgol yma yn yr Unol Daleithiau, a ledled y byd.”
‘Eithriadol o ddeallus a rhwydweithiwr o fri’
“Roedd Mike yn eithriadol o ddeallus, ac yn ffrind personol a chydweithiwr annwyl hefyd,” meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies.
“Yn wir, roedd ganddo ddawn arbennig o droi’r rhan fwyaf o’i gydweithwyr yn ffrindiau, ac roedd yn rhwydweithiwr o fri.
“Roedd yn ymroddedig i’r brifysgol, a bydd pawb yn gweld ei eisiau’n fawr, ond bydd ei gymyn yn parhau drwy Academi Morgan a’r partneriaethau strategol pwysig a ddatblygodd yn y brifysgol.”