Mae plant a phobol ifanc yng Nghymru yn “rhwystredig” nad ydyn nhw’n cael dweud eu dweud, ac yn poeni am eu dyfodol wedi Brexit, yn ôl adroddiad.

Yn gynharach eleni, cafodd astudiaeth ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru er mwyn canfod safbwyntiau pobol ifanc ar wledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bu dros 700 o blant a phobol ifanc rhwng 8 a 21 oed yn rhan o 39 o weithdai ledled Cymru, ynghyd â sesiwn Hawl i Holi yn y Senedd fis Hydref.

Yn ôl Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant, mae Brexit “wedi tanio diddordeb” pobol ifanc mewn gwleidyddiaeth, ac maen nhw’n gofyn am fwy o gyfleoedd i leisio’u barn.

Pryderon

Yn ôl yr adroddiad, dyfodol yr amgylchedd, eu cymunedau, y Gymraeg ac effaith ariannol Brexit oedd y prif bynciau trafod ymhlith plant oed cynradd.

Roedd plant oed uwchradd wedyn yn pryderu am yr amgylchedd, cyfleoedd i astudio a theithio tramor, ynghyd â hawliau dynol ac iechyd a lles.

I’r bobol ifanc mewn lleoliadau ieuenctid, roedd addysg, y Gwasanaeth Iechyd a’r rhyddid i symud ledled Ewrop yn bryder, tra bo ffermwyr a phobol ifanc gogledd Cymru yn awyddus i wneud cefnogi ffermwyr yn brif flaenoriaeth.

“Neges amlwg”

“Y neges amlwg gan bobol ifanc yma yw eu bod am gael gwybod beth sy’n digwydd a’u bod am gael cymryd rhan,” meddai Huw Irranca-Davies.

“Hefyd, maen nhw’n dymuno cael gwybod mwy am sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud a sut y gallan nhw ddefnyddio’r broses ddemocrataidd i leisio’u barn.

“Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o sicrhau bod buddiannau ein gwlad yn cael eu hamddiffyn yn llwyr wrth i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae hynny’n cynnwys dyfodol y genhedlaeth nesaf.”