Bydd canolfan ymwelwyr Comisiwn Coedwigaeth Cymru yng Nghoed-y-Brenin yn tyfu bron i ddwbl ei maint wrth i’r lleoliad coetir eiconig weld cynnydd eithriadol yn nifer yr ymwelwyr.
Bydd y gwaith ar estyniad dau lawr anferth a fydd yn cynnwys siop feiciau newydd gyda chyfleuster llogi beiciau, ystafell gynadledda a chyfarfod aml-swyddogaeth a chaffi estynedig yn cychwyn y flwyddyn nesaf yng nghoedwig Llywodraeth Cymru ger Dolgellau.
Bydd pont ryng-gysylltiol yn cysylltu’r adeilad 400m² newydd i’r ganolfan 500m² bresennol, sy’n brwydro i ymdopi â’r nifer gynyddol o ymwelwyr ers ei hagoriad yn 2006.
Coed-y-Brenin oedd y ganolfan beicio mynydd gyntaf i gael ei hadeiladu at y pwrpas yn y DU, a denodd ei henw da byd-eang 145,000 o ymwelwyr y llynedd, gan roi hwb anferthol i economi’r ardal.
Mae’n edrych yn debyg y bydd y rhif hwnnw’n cael ei ragori eleni yn dilyn yr haf gorau erioed gydag atyniadau eraill fel Go Ape! sef cwrs rhaffau uchel, cyfeiriannu, llwybrau rhedeg a cherdded yn ogystal â geocelcio a llwybrau llafar yn ehangu apêl y safle.
Dywedodd rheolwr hamdden CC Cymru John Taylor, “Mae Coed-y-Brenin yn dod yn fwy pwysig i’r economi leol wrth i bob blwyddyn fynd heibio ac wrth i’w enw da dyfu.
“Rydym wrth ein bodd yn cael cymeradwyaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer y datblygiad hwn, sy’n golygu y bydd Coed-y-Brenin yn parhau i allu cefnogi a rhoi hyder i letygarwch lleol a busnes gweithgaredd awyr agored yn yr ardal.”
Croesawyd y cynllun gan Debra Harris o Darganfod Dolgellau, sy’n cynrychioli diddordebau busnes yr ardal, a dywedodd y byddai’n “cryfhau safle Coed-y-Brenin hyd yn oed yn fwy fel un o brif barciau coedwig y DU a pharhau i ddenu pobl i’r ardal gydol y flwyddyn”.
Ychwanegodd, “Mae Coed-y-Brenin wedi dylanwadu’n fawr ar nifer yr ymwelwyr i’r ardal ers iddo agor bum mlynedd yn ôl. Mae’r cyfuniad o lwybrau beicio mynydd rhagorol, gweithgareddau ar gyfer y teulu cyfan a chyfleusterau rhagorol ar gyfer y rhai hynny sy’n caru byd natur neu’r rhai sy’n gaeth i lif adrenalin yn golygu bod ganddo rywbeth i’w gynnig i bawb.”
Y gobaith yw y bydd yr estyniad ar agor erbyn Nadolig 2013. Bydd yn cael ei adeiladu o bren Cymru o goedwigoedd Llywodraeth Cymru a bydd yn gosod meincnod i Gymru yn nhermau adeiladau cyhoeddus ynni effeithlon.
“Bydd y datblygiad yn arddangos y gorau o ddylunio adeiladau cynaliadwy yng Nghymru ac yn golygu y gallwn ddarparu atyniad a fydd hyd yn oed yn fwy ar gyfer ymwelwyr i’r rhan yma o Gymru,” dywedodd John.
Enillodd cynllun yr estyniad wobr gan Gyngor Dylunio Cymru, sef corff annibynnol sy’n adolygu rhinweddau datblygiadau cynllunio.
Mae’r estyniad yn rhan o brosiect gwerth £1.4 miliwn Canolfan Ragoriaeth Eryri dan arweiniad Cyngor Gwynedd sy’n cynnwys y llwybr beicio mynydd MinorTaur ar gyfer pob gallu a pharc sgiliau newydd.
Ariennir y prosiect gan Gronfa Cydgyfeirio Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE, Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru. Daw arian ychwanegol o Gyngor Gwynedd, yr Awdurdod Digomisiynu Niwclear, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd.