Dynes o Fôn sydd wedi ei phenodi’n Brif Weithredwr, Cyngor Sir Powys.

Cafodd Dr Caroline Turner, sydd ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr Cynorthwyol gyda Chyngor Ynys Môn, ei phenodi mewn cyfarfod arbennig o’r cyngor ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 20).

Mae ganddi werth chwarter canrif o brofiad o weithio i’r gwasanaeth sifil a llywodraeth leol yng Nghymru, yn ogystal â graddau mewn llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth ymgymryd â’i swydd newydd, mae’n olynu Dr Mohammed Mehmet, a gafodd ei benodi’n Brif Weithredwr Dros Dro ar y cyngor fis Ebrill eleni.

“Dw i wrth fy modd o gael fy mhenodi yn brif weithredwr Cyngor Sir Powys, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau etholedig, swyddogion a sefydliadau partner,” meddai Caroline Turner.

“Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn wynebu amseroedd heriol ond trwy gydweithio gyda’n gilydd, rwy’n siŵr y gallwn ddarparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd da i bobol Powys.”