Cyngor Sir Gaerfyrddin yw’r diweddaraf i gyhoeddi eu bod nhw am geisio barn trigolion wrth iddyn nhw orfod arbed £28m dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r cyngor, fel nifer o gynghorau lleol ledled Cymru, yn wynebu toriadau blynyddol yn eu cyllid gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf y galw cynyddol am eu gwasanaethau.

Yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin, bydd rhaid gwneud “penderfyniadau anodd” yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, ac maen nhw’n disgwyl y bydd angen arbed bron £10m yn ystod y flwyddyn nesaf yn unig.

Daw’r cyhoeddiad hwn ddiwrnod ar ôl y newydd bod y Cyngor wedi penderfynu ysgwyddo’r gost o gynnal rhai gwasanaethau gofal o fewn y sir, wrth i’r cwmni Allied Healthcare wynebu problemau ariannol.

‘Arbedion’

Ymhlith y cynigion sydd o dan ystyriaeth gan y Cyngor yn eu hymgynghoriad, mae:

o Peidio â darparu’r Gwasanaeth Lles Addysg mewn ysgolion;

o Cyflwyno newidiadau i lyfrgelloedd cangen ac amgueddfeydd;

o Adolygu’r gwaith o blannu ar gylchfannau yng nghanol trefi;

o Cau Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn;

o Adolygu canolfannau ailgylchu gwastraff cartref.

“Effaith negyddol fawr”

“Er bod y prif setliad dros dro yn well na’r hyn yr oedd y Cyngor yn ei ddisgwyl, roedd yn ostyngiad ar setliad y flwyddyn gyfredol,” meddai’r Cynghorydd David Jenkins, aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am Adnoddau.

“O ystyried ffactorau megis chwyddiant, newidiadau demograffig a’r galw am wasanaethau, ceir effaith negyddol fawr ar adnoddau’r Cyngor.

“Bydd y cynllun ariannol tymor canolig hwn yn sail ar gyfer ein hymgynghoriad ynghylch y gyllideb dros y misoedd nesaf.

“Bydd hyn yn sicrhau bod modd darparu gwasanaethau hanfodol gan gadw’r Dreth Gyngor ar lefel resymol.”