Fe gafodd yr heddlu arfog eu galw i fanc yn  nhref Gorseinon heddiw (Tachwedd 20), yn dilyn adroddiadau o ladrad.

Fe ddigwyddodd y cyfan ym manc Lloyds TSB toc wedi deg o’r gloch y bore, wedi i ddau ddyn arfog, a oedd wedi gorchuddio’u hwynebau, gerdded i mewn i’r adeilad, yn gwisgo dillad glas.

Ni chafodd neb ei anafu, ac fe ddihangodd y ddau yn fuan cyn i’r heddlu gyrraedd.