Mae’r heddlu yn Llanilltud Fawr yn apelio am wybodaeth ar ol cyfres o ladradau yn yr ardal dros y penwythnos.

Cafwyd adroddiadau am dri lladrad yn Leigh Close rhwng 10.30pm nos Sadwrn a 8.15am ar fore Sul.

Bu lladrad arall rhwng 10.30pm nos Sadwrn a 8.15am fore Sul yn Llys Boverton gerllaw.

Cafodd nifer o eitemau eu dwyn yn y lladradau gan gynnwys setiau teledu, iPhone 4 a 3, ffon symudol, Nintendo Wii a Microsoft Xbox 360, arian, cardiau credyd, gliniadur a camcorder Hitachi.

Cafodd car Ford Fiesta Zetec du hefyd ei ddwyn o un o’r tai ar ol i’r lladron ddwyn allwedd sbar.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ac i gysylltu a nhw ar 101 neu drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.