Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gweithredu cynlluniau wrth-gefn er mwyn sicrhau nad yw cyhoeddiad gan gwmni gofal yn effeithio ar wasanaethau o fewn y sir.

Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf (Tachwedd 16), fe gyhoeddodd Allied Healthcare, sy’n darparu gofal yn y cartref i 120 o gleientiaid yn Sir Gaerfyrddin, y bydd yn rhaid iddyn nhw drosglwyddo contractau oherwydd problemau ariannol.

Yn ôl y cyngor, roedden nhw’n barod wedi paratoi cynlluniau ar gyfer sefyllfa o’r fath, ac fe fyddan nhw’n cwrdd a chynrychiolwyr y cwmni heddiw er mwyn trafod y camau nesaf.

Mae’r rheiny’n cynnwys trosglwyddo tua 80 o staff sy’n darparu gofal ar ran Allied Healthcare i gyflogaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin.

“Gofal yn parhau”

“Yn bwysicaf oll, rydym am roi sicrwydd i’r bobol hynny sy’n derbyn gwasanaeth, a’u teuluoedd, y mae cyhoeddiad Allied yn effeithio arnyn nhw, y bydd eu gofal yn parhau,” meddai’r Cynghorydd Jane Tremlet, aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Rydym yn cwrdd â’r cwmni heddiw gyda’r bwriad o nodi oddeutu 80 elod o staff sy’n darparu gofal cartref ar ran Allied i bobol yn Sir Gaerfyrddin, a’u trosglwyddo i gyflogaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin.

“Byddwn yn ysgrifennu at staff a defnyddwyr gwasanaethau heddiw i roi’r sicrwydd angenrheidiol.”