Roedd tua hanner cant o bobol mewn gwylnos yn Llanbedr Pont Steffan dros y penwythnos, er mwyn cofio am ddynes a fu farw yn dilyn ymosodiad yn y dref.

Bu farw Katarzyna ‘Kasia’ Elzbieta Paszek, 39, o’i hanafiadau yn yr ysbyty wedi’r digwyddiad mewn tŷ yn Stryd y Bont dros wythnos yn ôl.

Cafodd yr wylnos er cof amdani ei chynnal ar Sgwâr Harffordd nos Sadwrn.

Yn ôl Rhys Bebb-Jones, aelod o’r cyngor tref a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, fe ddaeth holl gymunedau’r dref ynghyd i gofio am Kasia Paszek, gan gynnwys Cymry, Saeson, Pwyliaid ac eraill o wledydd dwyrain Ewrop.

“Tristwch”

“Roedd yna deimlad o dristwch yna – tristwch dros y teulu a thros y plant, a thristwch bod y fath beth yn gallu digwydd,” meddai’r cynghorydd.

“Roedd o hefyd yn dangos sut oedd pobol yn gallu dod ynghyd dim ots pwy oeddan nhw, beth oedd eu cefndir nhw, beth oedd eu hiaith nhw neu eu diwylliant nhw.

“Yn y diwedd, mae’r ddynoliaeth i gyd wedi cael eu heffeithio. Rydach chi’n sôn am berson dynol sydd wedi colli bywyd – ac mae hwnna yn ddychrynllyd.”

Ymchwiliad

Mae’r heddlu yn dal i ymchwilio i’r ymosodiad a ddigwyddodd tua 6 y nos ar Dachwedd 8.

Mae dyn 40 oed, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Daw hyn ar ôl i ddyn arall, 27, gael ei ryddhau ar fechnïaeth rai dyddiau ynghynt yr wythnos ddiwethaf.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.