Mae ymgyrchwyr heddwch wedi croesawu’r newyddion na fydd un o ffeiriau arfau mwya’ gwledydd Prydain yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Roedd digwyddiad DPRTE 2018 wedi denu tua 1500 o gynrychiolwyr y fasnach arfau i’r brifddinas ym mis Mawrth eleni ond fe fydd yn symud i Birmingham y flwyddyn nesa’.\

Fe gafodd tri o bobol eu harestio yn ystod protestiadau yn erbyn y digwyddiad yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd ac mae Cymdeithas y Cymod yn galw ar bobol Birmingham I wrthdystio hefyd.

“Cydymdeimlo”

“Cydymdeimlwn â thrigolion Birmingham a fydd yn gorfod ysgwyddo’r cywilydd o weld y Ffair yn dod i’w dinas a deisyfwn arnynt i sefyll yn gadarn yn ei herbyn,” meddai’r Gymdeithas mewn datganiad.

Maen nhw hefyd wedi gal war lywodraethau Cymru a San Steffan i sefydlu asiantaeth i droi ffatrioedd a gweithwyr arfau at ddiwydiannau heddychlon.

“Mae’r fasnach arfau yn gwbl anfoesol ac mae ei ffyniant yn dibynnu ar barhad y drefn farbaraidd o ladd,” meddai Cadierydd Cymdeithas y Cymod, Mererid Hopwood.

Cymro Cymraeg yn siarad

Mae gwefan DPRTE 2019 yn dangos fideo dramatig o’r digwyddiad yng Nghaerdydd ym mis Mawrth; mae’r trefnwyr yn dweud bod y maes werth tuag 20 biliwn o bunnoedd bob blwyddyn.

Y Cymro Cymraeg,, Stuart Andrew, yr Is-Ysgirfennydd Seneddol sy’n gyfrifol am bryniant yn y Weinyddiaeth Amddiffyn fydd un o’r siaradwyr yn Birmingham.