Mae tri dyn wedi’u harestio ar ôl digwyddiad yn ymwneud â chŵn ffyrnig yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn.

Roedd dau gi wedi ymosod ar ddau Yorkshire Terrier yn perthyn i wraig oedd yn cerdded gyda’i chŵn yn ffordd Alexandra, ger gwesty Waterloo tua 10.15pm.

Cafodd y wraig ei hanafu ar ôl cael ei brathu gan un o’r cŵn pan geisiodd eu hatal rhag ymosod ar ei chŵn hi. Mae un o’i chŵn wedi marw o ganlyniad i’r digwyddiad.

Fe gafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle cafodd driniaeth i’w braich cyn dychwelyd adref.

Mae’r ddau gi arall yng ngofal yr heddlu wrth i’r ymchwiliad barhau.

Cafodd tri dyn – 23, 30 a 31 oed – i gyd o ardal Casnewydd eu harestio o dan adran un o’r Ddeddf Cwn Peryglus.