Ym mis Ebrill fe osododd Keith Jones darged iddo’i hun o ddringo hanner cant o gopaon cyn ei fod yn cyrraedd ei hanner cant oed.

I’r gwr a’r tad-i-dri o bentref Clwt-y-bont ger Deiniolen, roedd hi’n her ddigon rhesymol… ond mae bellach wedi troi yn un llawer caletach, ac yn lot o hwyl.

“I ddechra’ o’n i’n mynd i wneud pum deg copa cyn o’n i’n 50 oed, ond mae o fatha bwyta pys, achos wedyn wnes i ddeud cant cyn bo’ fi’n hanner cant… a wedyn wnes i ddweud, ‘stwffia hyn, mi wna’ i hw i gyd!” meddai Keith Jones wrth golwg360 am bob mynydd yng Nghymru.

Ac, ar y ffordd at 190 o gopaon, mae bellach wedi cyrraedd rhif 171, a hynny mewn ychydig dros chwe mis o gerdded a dringo.

“Pan mae rhwbath ar stepan ddrws, dw i’m yn meddwl bo chi’n ei werthfawrogi fo… Fy hoff fynydd ydi mynydd o’r enw Ysgafell Wen tu cefn i Blaenau Ffestiniog… dydach chi ddim yn ei ddisgwyl o… mae o efo llynnoedd bach ac yn anghysbell. Mae o’n lle gwefreiddiol.”

https://www.youtube.com/watch?v=Gsg_YSSwKEY

Tri mis anhygoel

Fe dreuliodd Keith Jones dri mis “anhygoel” yn haul yr haf eleni, ac mae’r holl brofiad o ddringo’r copaon wedi bod yn brofiad o ddilyn y tymhorau, y planhigion, yr anifeiliaid, a’r adar.

Ond er y tywydd braf, roedd o’n teimlo’n “stiwpid” pan ddaeth wyneb yn wyneb â Storm Adam ar ben yr Aran Fawddwy. “Doedd hynny “ddim yn hwyl o gwbwl,” meddai.

https://www.youtube.com/watch?v=Gsg_YSSwKEY

Dim rhestr o fynyddoedd Cymraeg

Mae Keith Jones yn teimlo’n rhwystredig ynglŷn â’r ffaith nad oes y ffasiwn beth â rhestr o fynyddoedd Cymru wedi’i llunio gan Gymro Cymraeg.

“Be dwi’n meddwl sydd ddim cweit yn ei le ydi mai pobol eraill, estroniaid, sydd wedi penderfynu be ydi mynydd yng Nghymru,” meddai.

“Does yna ddim rhestr Cymraeg o Gymru i Gymry – mae yna un yn yr Alban ac yng Ngogledd  Iwerddon, ond does yna ddim yn fa’ma.

“Mae yna un llyfr yn disgrifio’r Berwyn fel y ‘boring Berwyn’, ond es i fyny i’r copa, a dyna’r ydi’r unig le dw i wedi bod yng Nghymru lle fedrwch chi ddim gweld ôl dyn ar y dirwedd o gwbwl. Gwych!”

Tryfan o Lyn Caseg y Fraith