Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi fideo wrth geisio  help y cyhoedd i adnabod corff dyn a gafodd ei ddarganfod yng Nghoedwig Clocaenog gerllaw Rhuthun yn 2015.

Eu gobaith yw y bydd yr wybodaeth yn y fideo yn helpu datrys llofruddiaeth a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl.

Meddai’r Ditectif Uwcharolygydd Iestyn Davies o’r Tîm Troseddau Difrifol:

“Ddydd Sadwrn 14 Tachwedd 2015 roedd rasys Wales Rally GB yn cael eu cynnal yng Nghoedwig Clocaenog . Yn hwyr y noson honno darganfu rhywun a fu’n gwylio’r rasys benglog dynol yn y goedwig, a thros y tair wythnos wedyn darganfuwyd gweddill sgerbwd y dyn o’r lleoliad.

“Datgelodd y Post Mortem bod y dyn wedi cael ei lofruddio ac mae’n fwy na thebyg bod ei gorff marw wedi cael ei ollwng yno.”

Proffil DNA

Wrth amcangyfrif oed y dyn wrth ei esgyrn, cred yr heddlu ei fod tua 54 oed, er y gallai fod dros 60, a’i fod tua 5” 10 o daldra.

Yn ogystal cafodd darnau o frethyn eu darganfod yn agos i’r corff, ac o’u harchwilio roeddent yn cyfateb i ddillad a gafodd eu gwneud rhwng 1999 a 2004.

Er bod gwyddonwyr fforensig wedi gwneud proffil DNA llawn o’r corff, nid yw’r sampl ar unrhyw gronfa ddata DNA genedlaethol.

Maen nhw wedi dod i’r casgliad i’r dyn gael ei eni cyn 1950 a’i bod yn fwyaf tebygol i’r corff gael ei adael yn y goedwig rhwng 2004 a 2010.

Yn seiliedig ar y penglog, mae llun wedi ei wneud i geisio dangos sut y byddai’r dyn yn edrych pan oedd yn fyw.

Gofynnodd Ditectif Arolygydd Davies: “Oedd gan y person neu’r bobl sy’n gyfrifol wybodaeth flaenorol o’r ardal; oedden nhw wedi bod yno o’r blaen? Mae’r lleoliad yn gartref i’r ras Rally GB, rali’r RAC gynt ers blynyddoedd ac mae Llyn Brenig gerllaw yn le hwylio poblogaidd sydd wedi denu miloedd o ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd.”