Mae dyn a dreuliodd 12 awr yn eistedd ar bwys dyn gordew ar awyren, wedi mynd â chwmni British Airways i’r llys.

Mae Stephen Prosser, 51, yn honni iddo gael ei anafu yn ystod y daith honno, ac mae wedi galw am iawndal gwerth £10,000.

Clywodd Llys Sirol Pontypridd bod Stephen Prosser wedi cwyno am ei sedd, ond bod staff yr awyren wedi ei anwybyddu.

Daw Stephen Prosser o Benygraig, ger Tonypandy, ac mae yn honni bod y daith awyren yn Ionawr 2016 wedi achosi problem barhaus i’w gefn.

Roedd ei ‘gyd-deithiwr’ yn pwyso 22 stôn, meddai, ac roedd ei gnawd yn “gorlifo” dros ei sedd, gan orfodi’r Cymro i eistedd gydag “osgo annaturiol”.

“Roedd e mor fawr, bu’n rhaid iddo wthio ei din â grym trwy freichiau ei gadair,” meddai. “Mi eisteddais gyda fy mhengliniau yn gwthio yn erbyn fy nghorff.”