Mae dynes 81 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwm Rhondda.
Yn ôl Heddlu’r De, digwyddodd y gwrthdrawiad am 2.15 prynhawn dydd llun, Tachwedd 12, ym mhentref Treorci.
Roedd car coch Ford Ecosport ynghlwm â’r digwyddiad, ac fe ddigwyddodd ar gyffordd y Stryd Fawr sy’n cysylltu â heol yr A4061.
Yn dilyn y gwrthdrawiad cafodd Muriel Kinsey, o Bentre, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach (Tachwedd 14).
Dylai unrhyw dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, gysylltu â’r heddlu trwy alw 101 a dyfynnu’r cyfeirnod *430506.