Mae dyn 40 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad yn Llanelli’r penwythnos diwethaf.
Mae Paul Kristoffer Warnes yn parhau yn y ddalfa yn dilyn y digwyddiad mewn tŷ yn Nheras Coleshill yn y dref am tua saith fore Sul (Tachwedd 11).
Cafodd un dyn ei anafu’n ddifrifol o ganlyniad i’r ymosodiad, cyn cael ei gludo’n syth i’r ysbyty.
Mae’r dyn hwnnw bellach wedi’i ryddhau ar ôl derbyn triniaeth feddygol.