Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi rhybuddio aelodau Ceidwadol y meinciau cefn fod peryg y bydd gwledydd Prydain yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd os nad ydyn nhw’n cefnogi cytundeb drafft Brexit Theresa May.

Daw sylwadau Alun Cairns wrth iddo gadarnhau ei gefnogaeth i Brif Weinidog Prydain, yn sgil cyfres o ymddiswyddiadau o’r Llywodraeth ddoe (dydd Iau, Tachwedd 15) a bygythion o ddiffyg hyder gan Geidwadwyr fel Jacob Rees-Mogg.

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn siarad mewn cyfarfod o’r Bwrdd Masnach ym Mhrifysgol Abertawe ddoe, ochr yn ochr â’r Ysgrifennydd tros Fasnach Rynglwadol, Liam Fox.

‘Cefnogwch y cytundeb’

“Dyw newid Prif Weinidog ddim yn newid rhifyddeg y Senedd, felly mae’n rhaid i gyd-weithwyr dderbyn y cyd-destun yr ydyn ni’n gweithio ynddo,” meddai Alun Cairns.

“Dw i’n dweud wrth y rheiny sydd fwyaf o blaid Brexit ac sydd ddim eisiau cytundeb, eu bod nhw mewn peryg o ddim cael Brexit o gwbwl.

“Ac i’r rheiny sydd o blaid aros ac sy’n anwybyddu canlyniad y refferendwm, maen nhw mewn peryg o adael heb gytundeb, sef y sefyllfa waethaf i’r ddwy ochr.”

Fe aeth Alun Cairns ymlaen i ddweud bod y cytundeb yn “ddatrysiad pragmataidd” sy’n “parchu” canlyniad y refferendwm yn 2016.

Ond cyfaddefodd fod y cynigion yn “gyfaddawd”, gan ychwanegu bod  y rhan o’r cytundeb drafft sy’n cyfeirio at atal ffin galed yng Ngogledd Iwerddon yn elfen “negyddol”.

Fe wrthododd Liam Fox i ateb cwestiynau newyddiadurwyr yn dilyn y digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe ddoe, ar ôl wfftio adroddiadau y dylai ymddiswyddo mewn gwrthwynebiad i’r cytundeb drafft.