Glain Dafydd
Neithiwr fe gipiodd Glain Dafydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2011 mewn cyngerdd gwefreiddiol a gynhaliwyd yn Stiwdio’r Ddraig, Pencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr.  Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Glain yn y cyngerdd oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw ar weithgareddau’r Ysgoloriaeth am eleni.

Daeth Glain, 19 oed, o Fangor ac sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgolion y Garnedd a Tryfan a Chanolfan William Mathias  i’r brig wedi iddi swyno’r chwe beirniaid gyda’i dehongliad o Au Matin gan Touriner, La Source, Albert Zabel ac Impromptu gan Reinhold Gilère. Fel rhan o weithgarddau’r Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan y telynor Ieuan Jones.

Mae Glain wedi hen arfer â pherfformio a chystadlu, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae eisoes wedi ennill Tlws y Telynor, Ysgoloriaeth Simms yr Urdd a’r Rhuban Glas Offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau’r Cymoedd 2010. Yn yr un flwyddyn bu’n agos i’r brig yng nghystadleuaeth BBC Young Musician a’r Royal Overseas League. Mae hi bellach yn astudio ym Mhrifysgol Normale de Musique de Paris o dan hyfforddiant Isabelle Perrin. Yn ddiweddar ymddangosodd Glain fel aelod  o Gerddorfa Ieuenctid Prydain yn y Proms yn Neuadd Albert yn Llundain.

Meddai , “Mae ennill Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel yn gyrhaeddiad allweddol i mi yn fy ngyrfa hyd yma, heb os. Mae wedi bod yn fraint cael cymryd rhan mewn cystadleuaeth sy’n cael ei chefnogi gan Bryn Terfel ac sy’n cael ei chydnabod fel un o ysgoloriaethau mwyaf blaenllaw Cymru. Mae bod yn rhan ohoni’n adlewyrchu’r safonau cerddorol yr wyf fi’n anelu atyn nhw fel telynores ac mae’n bwysig am ddau reswm penodol: y naill yn ymarferol, sef y gefnogaeth ariannol, a’r llall yn fodd o godi proffil fel perfformwraig – mae hynny’n amhrisiadwy. Hoffwn gydnabod y cyfraniad y mae’r Urdd wedi’i wneud i mi fel perfformiwr dros nifer o flynyddoedd ac sy’n cyrraedd penllanw drwy’r gystadleuaeth arbennig hon.”

Meddai Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, “Eto eleni, mae cystadleuaeth yr Ysgoloriaeth wedi creu cynnwrf a chyffro heb ei ail a’r cyngerdd yn binacl gwych i’r holl weithgareddau. Bu i’r wyth cystadleuydd roi o’u gorau a llongyfarchiadau gwresog iawn i Glain. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei gyrfa yn y dyfodol.”