Mae corff  dyn wedi ei ganfod ar draeth rhwng Pen-bre a Porth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r fan am tua 4.15yp ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 14).

Y gred yw fod y dyn yn ei 50au, ac mae’r heddlu ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad er mwyn ceisio’i adnabod.

Dyw’r heddlu ddim yn gwybod eto beth oedd achos y farwolaeth, ond dydyn nhw ddim yn ei thrin fel un amheus.