Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r buddsoddiad gwerth £240m gan Lywodraeth Prydain sy’n addo creu ‘miloedd’ o swyddi yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol Llywodraeth Prydain, Liam Fox, wrth i’r Bwrdd Masnach gyfarfod yng Nghymru am y tro cyntaf ar gyfer un o’u pedwar cyfarfod blynyddol.

“Mae’n wych gweld cefnogaeth mor amlwg i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unwdig, sy’n buddsoddi swm enfawr o arian mewn diwydiannau y mae’n eu hystyried yn bwysig,” meddai llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.

“Mae gweld y Bwrdd Masnach yn ymgynnull yng Nghymru yn pwysleisio’r rôl ganolog a fydd gan Gymru mewn masnachu ôl-Brexit wrth i’r Deytnas Unedig ddychwelyd i’r byd fel cenedl fasnach annibynnol, a’r dyhead i ddenu buddsoddiad tramor o’r radd flaenaf i’n gwlad.”

Manylion y buddsoddiad

Yn ystod yr ymweliad ag Abertawe, fe gyhoeddwyd portffolio ynni gwerth £240m.

Bydd £35m yn mynd at Gyfleuster Ynni Morwrol Morlais ym Môn, £100m i ffatri Ynni i Wastraff CoGen yng Nghaerdydd, ac oddeutu £105m i Barc Gwyliau Arfordir Penrhos yn Ynys Cybi.

Bydd rhagor o fuddsoddiad hefyd yn y sector niwclear yn y gogledd, a’r sector gwyddorau bywyd a llesiant.

Bydd y prosiectau hyn yn cael eu marchnata gan Lywodraeth Prydain mewn 108 o wledydd.