Mae Prif Weinidog Cymru yn dweud bod angen i lywodraethau datganoledig gwledydd Prydain weld y cytundeb drafft ar Brexit “cyn gynted â phosib”.

Cafodd y cytundeb ei greu yn sgil trafodaethau rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 13), ond dyw ei union gynnwys heb gael ei gyhoeddi eto.

Ar lawr Siambr y Cynulliad heddiw, fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, nad yw Carwyn Jones wedi gweld na thrafod y cytundeb gyda Theresa May hyd yn hyn.

Mewn datganiad gan Carwyn Jones ei hun wedyn, mae’n dweud ei bod yn bwysig i holl wledydd Prydain gael cyfle i “graffu’r” cynigion.

“Mae holl wledydd Prydain angen amser i archwilio’r hyn sy’n cael ei gynnig a fydd yn cael effaith mawr ar ein dyfodol,” meddai.

“Mae cymaint yn gorffwys ar ysgwyddau’r Prif Weinidog a’r hyn y bydd hi’n cyflawni o fewn yr oriau nesaf.

“Mae angen iddi edrych i fyw llygaid yr eithafwyr Brexit hynny sydd o fewn ei phlaid ei hun, a phenderfynu ar drywydd sy’n addas ar gyfer yr holl Deyrnas Unedig.”