Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi enwi’r ddynes a fu farw yn dilyn ymosodiad yn Llanbedr Pont Steffan yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw Katarzyna Elzbieta Paszek, 39, o’i hanafiadau yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad ar Stryd y Bont nos Iau (Tachwedd 8).

Mewn teyrnged iddi, mae ei theulu’n dweud eu bod yn “fam, merch, chwaer a modryb a oedd yn cael ei charu gan nifer”.

“Fe hoffem amser i alaru nawr, ac r’yn ni’n gofyn am gael gwneud hynny mewn preifatrwydd,” meddai’r datganiad.

Mae un dyn, 40, yn parhau yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r digwyddiad, tra bo dyn arall, 27, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd dau ddyn arall – 31 a 37 – eu harestio yn wreiddiol hefyd, ond mae’r rheiny bellach wedi’u rhyddhau heb gyhuddiadau yn eu herbyn.