Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dyn a dynes yn Llanelwy.

Cafodd swyddogion eu galw i dŷ yn Bishop’s Walk yn y ddinas yn fuan wedi 8:30yb ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 13), lle daethon nhw o hyd i ddau berson wedi marw.

Mae lle i gredu bod  y ddau yn ŵr a gwraig.

Yn ôl yr heddlu, dydyn nhw ddim yn siŵr beth oedd achos eu marwolaeth ac mae ymchwiliad ar y gweill.