Mae’r Uchel Lys yn Llundain wedi rhoi caniatâd i deulu Carl Sargeant i herio’r modd y mae ymchwiliad i farwolaeth y cyn-wleidydd yn cael ei gynnal.

Mae’r teulu wedi bod yn dadlau am yr hawl i gael croesholi tystion, a nawr mae’r Uchel Lys wedi caniatau adolygiad barnwrol.

Mae’r ymchwiliad i amgylchiadau diswyddo Carl Sargeant gan Brif Weinidog Cymru y llynedd, a’r modd y bu’r cyn-weiniodog Cabinet farw flwyddyn union yn ôl, wedi bod ar stop, tra bod y teulu’n mynd i gyfraith.

Fe grogodd Carl Sargeant ei hun yn ei gartref ddechrau Tachwedd 2017, lai nag wythnos cyn colli ei swydd a chael ei wahardd o’r Blaid Lafur.