Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r ddynes 87 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger y Bwcle ddiwedd mis diwethaf (Hydref 31).

Bu farw Pamela Johnson o ardal Penyffordd yn Ysbyty Stoke ddiwrnod ar ôl cael ei hanafu yn y gwrthdrawiad ar Ffordd Caer.

Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu ei bod yn ddynes “gariadus a gofalgar” a oedd “bob amser yno i gynnig cyngor a chefnogaeth i’w theulu.”

“Roedd ganddi deulu mawr, cariadus a oedd yn ei charu a’i pharchu a bydd colled fawr ar ei hôl,” meddai’r datganiad.

“Roedd hi’n uchel ei pharch yn y gymuned. Roedd hi bob amser yn rhoi anghenion pobol eraill o flaen ei hanghenion hi ei hun. Doedd dim yn ormod o drafferth iddi.

“Roedd gofal Mam at eraill yn mynd y tu hwnt i deulu a ffrindiau. Roedd yn  teithio yn aml ar y bysiau lleol a byddai’n siarad â phawb a fyddai’n fodlon gwrando.

“Doedd neb yn berson dieithr iddi hi a byddai’n gwrando ar ofidion pobol eraill ac yn siarad â nhw.”