Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd adolygiad yn cael ei gynnal i’r ddarpariaeth o loches a gwasanaethau trais rhywiol yng Nghymru.

Y nod, medden nhw, yw trawsnewid y gefnogaeth sy’n cael ei darparu ar hyn o bryd i ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig.

Bydd yr adolygiad, sy’n cael ei arwain gan arbenigwyr, yn ystyried enghreifftiau rhyngwladol o wasanaethau a chefnogaeth sy’n gweithio.

Bydd hefyd yn gweithio gyda phobol sydd â phrofiad o wasanaethau lloches a cham-drin rhywiol er mwyn datblygu model o safon yng Nghymru.

“Angen newid”

Yn ôl Carwyn Jones, mae un o bob pum dynes wedi profi trais rhywiol yn y Deyrnas Unedig, gydag un o bob pedair wedyn yn ddioddefwyr cam-drin domestig.

“Fel cymdeithas, rydyn ni wedi cilio oddi wrth siarad am gam-drin domestig a thrais rhywiol o bob math, ond dim ond cyfrannu mae hynny at y straeon a’r wybodaeth anghywir sy’n gallu gwneud i oroeswyr bryderu am rannu eu gofidiau,” meddai.

“Mae’n amser am newid. Po fwyaf fyddwn ni’n siarad am beth sy’n digwydd, y mwyaf fyddwn ni’n lledaenu negeseuon o gefnogaeth ac ymwybyddiaeth, gan frwydro yn erbyn hyn.”