Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Byddai polisi ffioedd dysgu’r Blaid Lafur yn arbed arian i Lywodraeth Cymru, meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, heddiw.
Yng Nghymru bydd myfyrwyr sy’n mynd i brifysgolion sy’n codi £9,000 yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r £5625 arall.
Heddiw cyhoeddodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, na fyddai ffioedd dysgu yn codi dros £6,000 pe baen nhw mewn grym.
Byddai hynny’n golygu fod rhai i Lywodraeth Cymru dalu £2,625 ar y mwyaf am bob myfyriwr o Gymru sydd eisiau mynd i Brifysgol.
Dywedodd Carwyn Jones wrth raglen Politics Show y byddai yn “arbed llawer iawn o arian i Gymru” pe bai Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol yn 2015.
“Fe fyddai yn golygu na fyddai yn rhaid i ni ddarparu cymaint o nawdd ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau mynd i brifysgol,” meddai.
“Os oedd ffioedd dysgu yn cael eu cadw at £6,000, fe fyddai’r gost i ni yn haneru i bob pwrpas.
“Fe fyddai yn lawr iawn o arian i’w arbed ac yn sicr o fudd i gyllideb Cymru.”
Dywedodd Ed Miliband y byddai trethi ar fancwyr a graddedigion sy’n ennill y cyflogau mwyaf yn talu cost £1 biliwn torri ffioedd dysgu £3,000.
Mewn cyfweliad â phapurau’r Sul dywedodd Ed Miliband y byddai yn codi’r llog ar fenthyciadau graddedigion oedd yn ennill mwy na £65,000.
Byddai hefyd yn diddymu toriadau trethi’r Llywodraeth Geidwadol i’r sector ariannol.