Mae dros 1,000 o gartrefi wedi bod heb drydan yn dilyn llifogydd ledled Cymru.

Sir Benfro a Sir Gâr sydd wedi cael y tywydd gwaethaf, wrth i’r gwynt a’r glaw effeithio ar drafnidiaeth.

Fe fu hyd at dair metr o ddŵr yn Aberdaugleddau, ac fe fydd rhybuddion am lifogydd yn eu lle tan 11 o’r gloch heno (nos Sadwrn, Tachwedd 10).

Mae perygl y gall fod llifogydd mewn rhannau eraill o’r de a’r canolbarth, gan gynnwys Hwlffordd a Sanclêr.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cadw llygad ar y sefyllfa, wrth i ragolygon gyhoeddi rhybudd oren y gallai hyd at 40mm (1.5 modfedd) o law gwympo o fewn cyfnod o hyd at naw awr. Mae rhybudd melyn yn ei le tan ganol nos.