Mae Cyngor Caerdydd yn gofyn am farn trigolion y brifddinas ynglŷn â sut y gallan nhw arbed £35.2m y flwyddyn nesaf.

Daw hyn wrth i nifer o gynghorau lleol yng Nghymru wynebu toriadau yn eu cyllidebau.

Dywed Cyngor Caerdydd mai eu cyllideb bresennol yw £609m, gyda 65% (£397m) o’r swm hwnnw’n cael ei wario ar ysgolion a gwasanaethau ysgolion.

Ond er bod disgwyl i’r cyngor weld cynnydd o 0.4% (£1.6m) yn eu cyllideb y flwyddyn nesaf, bydd dal angen arbed £35.2m, medden nhw.

“Nonsens llwyr”

“Nid yw’r sôn diweddar am ddiwedd llymder a mwy o arian i’r sector cyhoeddus yn wirionedd y bydd unrhyw un ym maes llywodraeth leol yn ei adnabod – mae’n nonsens llwyr,” meddai’r Cynghorydd Chris Weaver, yr aelod tros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad ar y Cabinet.

“Yn anffodus, mae ein cyllideb mewn termau real yn cael ei thorri eto fyth.

“Mae cynghorau ledled gwledydd Prydain dan bwysau cynyddol, a’r gwasanaethau mae ein dinasyddion yn dibynnu arnyn nhw fydd yn dwyn baich y llymder peryglus hwn nad oes golwg y daw i ben.”

Opsiynau

Ymhlith argymhellion y cyngor ar gyfer arbed arian yw cynyddu Treth y Cyngor gan 4.3%, gosod cap ar dwf cyllideb ysgolion neu ddefnyddio’r £4m sydd ganddyn nhw wrth gefn.

Maen nhw hefyd yn ystyried:

  • Dod o hyd i denant ar gyfer y Theatr Newydd;
  • Cynyddu cost amlosgiadau o £560-£650 a chladdedigaethau o £660-£760;
  • Cynyddu cost dirwyon gollwng sbwriel o £80 i £100;
  • Ceisio lleihau cymorthdaliadau ar gyfer digwyddiadau;
  • Trosglwyddo eiddo mewn parciau, fel ystafelloedd newid, i grwpiau chwaraeon.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros gyfnod o chwe mis, a hynny o Dachwedd 16 i Ionawr 2, 2019.