Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bobol gymryd gofal wrth i law trwm barhau i effeithio rhannau o dde Cymru, yn enwedig Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Y disgwyl yw y bydd afonydd yn gorlifo a llifogydd yn taro’r gorllewin, ac fe allai darfu ar drafnidiaeth.

Sir Benfro gafodd hi waethaf ddoe wrth i ddraeniau flocio gan achosi llifogydd ar lonydd ac mewn adeiladau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori pobol i gymryd gofal ger afonydd sydd â llif uchel neu gyflym ac i osgoi gyrru trwy lifogydd.

Ac mae Cyngor Sir Benfro wedi rhybuddio pobol yn Hwlffordd i baratoi ar gyfer mwy o lifogydd heno.

I gael y darlun diweddaraf ewch i https://www.pembrokeshire.gov.uk/situation-updates

Ac i www.naturalresources.wales/flooding