Fe gafodd corff  ei dynnu o’r afon ym mhentref Pontnewydd ar Wy ddoe.

Ac er nad yw’r broses o adnabod y corf yn ffurfiol wedi digwydd eto, mae teulu Dilwyn Malcolm Williams – a fu ar goll ers Hydref 16 – wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf, ac mae’r chwilio amdano wedi dod i ben.

Mae ei deulu yn cael Cymorth gan swyddogion arbennig.

Fe gafodd Heddlu Dyfed Powys gymorth y frigâd dân a Thîm Achub Mynydd i dynnu’r corff o’r afon.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Steve Lloyd: “Rhaid i mi ddiolch i’r gymuned am eu Cymorth gyda’r mater hwn a hefyd hoffwn ddiolch i’n partneriaid wnaeth helpu i symud y corf mewn modd mor barchus ag oedd modd.”