Mae dros fil o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw am adolygiad o ddedfryd y pedoffeil a chyn-Aelod Cynulliad, Simon Thomas.

Cafodd y cyn-wleidydd ei ddedfrydu i 26 wythnos o garchar – wedi’i ohirio am ddwy flynedd – ar Hydref 31, wedi i gannoedd o luniau anweddus o blant gael eu darganfod yn ei feddiant.

Ef oedd Aelod Cynulliad Plaid Cymru tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ers 2011, ac roedd nifer o’r lluniau yn ei feddiant yn dod dan y categori mwyaf eithafol.

Mae’r ddedfryd eisoes wedi cael ei beirniadu’n hallt, a bellach mae dau gynghorydd tref Llafur o Geredigion, wedi sefydlu deiseb dan yr enw ‘Anfonwch Simon Thomas i’r carchar’.

Cynghorydd tref Aberystwyth, Claudine A Young, a Chynghorydd Tref Llanbedr Pont Steffan, Dinah Mulholland, sy’n gyfrifol am y ddeiseb, a hyd yma mae 1,260 wedi ei arwyddo.

Yn ogystal â galw am adolygiad o achos Simon Thomas, mae’r ddeiseb yn galw ar y Cyngor Dedfrydu i “adolygu’r canllawiau ynghylch meddu a chreu lluniau anweddus o blant”.

Mae hefyd yn galw am gyfeirio’r Barnwr Gwyn Jones – a ddedfrydodd Simon Thomas – at Swyddfa Ymchwiliadau i Ymddygiad Barnwrol.