Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am rwydwaith drenau Cymru wedi galw ar ymgyrchwyr iaith i ganslo protest yn eu herbyn.

Bore yfory,  mae Cymdeithas yr Iaith yn bwriadu cynnal protest tros ddiffyg gwasanaethau Cymraeg ar drenau’r wlad.

Maen nhw wedi derbyn cwynion gan y cyhoedd am docynnau a chyhoeddiadau trenau uniaith Saesneg.

Ym mis Mai eleni fe roddodd Llywodraeth Cymru gytundeb £5 biliwn i gwmni Keolis Amey redeg trenau’r wlad.

Ac ers dechrau ar y  gwaith ym mis Hydref maen nhw wedi bod yn cynnal y trenau dan yr enw ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru’.

Mewn neges sydd wedi dod i law golwg360 mae ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru’ yn galw am gyfarfod â Chymdeithas yr Iaith, ac am ohirio’r brotest.

“Caf ar ddeall bod y Gymdeithas wedi trefnu protest ar gyfer dydd Sadwrn, ac roeddwn i’n meddwl tybed a fyddech chi’n hoffi gohirio hynny tan i ni gael cyfarfod cychwynnol yn y lle cyntaf?” meddai swyddog ar ran y cwmni.

Yn ymateb mae’r ymgyrchwyr yn dweud: “Nid yw’n briodol o gwbl i gorff ofyn i’w defnyddwyr beidio â defnyddio eu hawliau democrataidd i brotestio.”

Pam protestio?

Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni eu bod wedi derbyn “sawl cwyn gan aelodau o’r cyhoedd” yn erbyn ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru’ a ‘Trafnidiaeth Cymru’.

Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar ‘Trafnidiaeth Cymru’, a’r is-gwmni yma oedd yn bennaf gyfrifol am ddyfarnu’r cytundeb i ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru’.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhoi rhestr o gwynion at ei gilydd, sy’n cynnwys:

  • cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg ar y trenau
  • ynganiadau gwallus ar gyhoeddiadau sain
  • enw uniaith Saesneg ‘Transport for Wales’ ar arwyddion electronig
  • gwallau yn y Gymraeg ar y wefan
  • tocynnau trên uniaith Saesneg

Mae’r ymgyrchwyr iaith wedi cysylltu â Chomisiynydd yr Iaith, Meri Huws, gan honni bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol, ac yn galw arni i gynnal ymchwiliad cyffredinol i’r ddau gorff.

Mi fydd Cymdeithas yr Iaith yn protestio am 10.30 bore fory y tu allan i swyddfa Trafnidiaeth Cymru ar Stryd Wood yng Nghaerdydd.

Trafnidiaeth Cymru 

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Masnachol a Phrofiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru:

“Mae gennym gynlluniau cyffrous yn Trafnidiaeth Cymru i drawsnewid trafnidiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac mae hyn yn cynnwys cynllun uchelgeisiol i wella gwasanaethau dwyieithog i’n cwsmeriaid.

“Rydym am gael deialog agored â’n holl gwsmeriaid a’n rhanddeiliaid.  Ar ôl clywed am fwriad Cymdeithas yr Iaith i weithredu, fe wnaethom eu gwahodd i gyfarfod â ni er mwyn trafod eu pryderon wyneb yn wyneb cyn cymryd unrhyw gamau.

“Mae’r gwahoddiad yna o hyd i gael trafodaeth adeiladol â nhw pan fyddan nhw’n barod i wneud hynny, ac nid ydym yn ceisio gwadu hawl ddemocrataidd unrhyw un i brotestio o gwbl.”