Bydd Prif Weinidog Cymru yn cymryd rhan mewn cyfarfod arbennig ar Ynys Manaw yn ddiweddarach, lle bydd Brexit yn brif bwnc trafod.
Yn ymuno â Carwyn Jones fydd, Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon, Leo Varadkar; Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon; a Gweinidog Swyddfa’r Cabinet yn San Steffan, David Lidington.
Bydd cynrychiolwyr o lywodraethau Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw hefyd yn cymryd rhan yng nghynhadledd y Cyngor Prydeinig Gwyddelig.
Dyma fydd 31ain cyfarfod y fforwm a gafodd ei sefydlu yn rhan o gytundeb heddwch Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon.
Dyw gweinidogion Gogledd Iwerddon heb gymryd rhan ers rhai blynyddoedd yn sgil disodli llywodraeth y wlad, a’r anghydfod rhwng ei phleidiau.
Brexit ac Iwerddon
Hon fydd cyfarfod diwethaf y Cyngor Prydeinig Gwyddelig cyn Brexit, a daw wrth i densiynau tros ffin Iwerddon gyrraedd ei hanterth.
Hyd yma mae’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi methu â chytuno ar gynllun wrth gefn a fyddai’n rhwystro ffin galed ar yr ynys.
Hoffai’r Undeb Ewropeaidd weld Gogledd Iwerddon yn cydymffurfio â’u rheolau nhw – cam a fyddai’n meddalu’r ffin ar yr ynys, ond mewn gwirionedd yn codi ffin ym môr yr Iwerydd.
Mae’r DUP (Y Blaid Ddemocrataidd Unoliaethol) wedi gwrthwynebu hyn, a’n ddiweddar wedi beirniadu Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, am ei safiad hithau.