Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn delio gyda nifer o lifogydd yn Sir Benfro dros nos ac mae yna rybuddion bod rhagor o law trwm ar ei ffordd.

Mae 11 rhybudd oren mewn grym ledled Cymru heddiw.

Yn ôl Cyngor Sir Benfro, mae nifer o ffyrdd dan ddŵr yn ogystal â chartrefi yn Aberdaugleddau a Hwlffordd.

Mae’r heddlu, Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyngor Sir Benfro a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio i geisio gostwng  lefel y dŵr yn ardal Lower Priory yn Aberdaugleddau. Mae tafarn y Priory Inn ac un adeilad arall wedi’u heffeithio. Mae 12 o gartrefi eraill yn yr ardal.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud nad oes perygl i fywydau pobl ar hyn o bryd ond yn rhybuddio pobl i osgoi’r ardal tra bod y gwasanaethau brys yn parhau gyda’u gwaith.  Mae’r Gwasanaeth Tan ac Achub yn pwmpio’r dŵr i ddociau Aberdaugleddau.