Fe ddaeth cadarnhad gan y gwasanaethau brys fod dyn wedi’i ladd mewn damwain yn ne Gwynedd, wedi i goeden ddymchwel a’i daro.

Fe gafodd y gwasanaethau eu galw toc wedi 3yp heddiw (dydd Iau, Tachwedd 8) i gyfeiriad ym mhentref Llanbedr.

Roedd criw o ymladdwyr tân o Harlech ymysg y rhai cyntaf i ymateb i’r digwyddiad, cyn bod ambiwlansys a’r Ambiwlans Awyr wedi cyrraedd yno hefyd.

Er gwaethaf pob ymdrech gan ddau barafeddyg, fe gyhoeddwyd fod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle.