Mae band gwerin o Gastell-nedd yn helpu tafarn gymunedol Tafarn Sinc yng ngogledd Sir Benfro i ddathlu ei phen-blwydd yn flwydd oed ar ei newydd wedd heddiw (Tachwedd 7).

Mae Gwŷr Y Stac wedi recordio cân deyrnged i’r dafarn, wedi i’r gymuned leol lwyddo i godi dros £300,000 er mwyn prynu’r adeilad oedd ar y farchnad am bron i flwyddyn.

Bydd y gân arbennig ar gael i’w lawrlwytho ddydd Gwener nesaf (Tachwedd 16).

“Mae lot o bethau hanesyddol yn ymwneud â’r lle, a hynny mewn ardal sy’n Gymraeg iawn,” meddai Ken Thomas, aelod o’r band Gwŷr Y Stac wrth golwg360.

“Mae’n eitha’ eiconig fel adeilad, a’r hen tin sheets tu fa’s yn rhoi’r enw Tafarn Sinc iddi ac yn gwneud iddi sefyll ma’s.”

Roedd teulu Ken Thomas ymhlith y rhai cyntaf i gyfrannu at yr achos, ac mae’n dweud ei fod yn falch o gael adeiladu ar y cyswllt hwnnw drwy recordio’r gân Tafarn Sinc.

“Mae ffrindiau gyda fi lawr ’na hefyd oedd wedi gofyn i Gwŷr Y Stac fynd lawr i chwarae, felly dyma fi’n meddwl am sgrifennu cân fach yn sôn am y dafarn hefyd.

“Aethon ni lawr a chael croeso arbennig yno dros ddwy noson, a wnaethon ni benderfynu wedyn i gydweithio gyda nhw i godi arian i’w helpu nhw.”

Naws gymunedol y band

Ac roedd naws gymunedol y dafarn yn taro tant gyda’r band sy’n credu’n gryf mewn mynd â cherddoriaeth draddodiadol Gymraeg a Chymreig allan i gymunedau ledled Cymru.

“Wnaethon ni godi fel band o fynd i sesiynau Sŵn gyda’r Fenter Iaith yng Nghastell-nedd Port Talbot yn y Gwachel ym Mhontardawe.

“Pan ddaethon ni at ein gilydd, do’n i a Tim, y prif leisydd, heb weld ein gilydd ers pymtheg mlynedd. Y tro cynta’ i ni gwrdd oedd pan ymunon ni â’r heddlu fel cadetiaid yn 1979.”

Fe fydd 200 copi o’r sengl ar gael ar gryno-ddisg yn fuan, a’r clawr yn cynnwys gwaith celf Orielodl.

Dyma ragflas o’r gân:

https://www.facebook.com/tafarnsinc/videos/339982116807569/